Lisa



Rwyn artist o Ynys Môn yn wreiddiol, ond yn gweithio o fy stiwdio adref yng Nghaernarfon. Dwi'n peintio tirluniau haniaethol wedi eu hysbrydoli gan fynyddoedd Eryri. Mae nhw'n lefydd hudolus, ffantasïol sy'n eich galluogi i ddianc i ryw fyd arall. Mae gen i gariad mawr tuag at Gogledd Cymru, byd natur, cerddoriaeth, fy ffrindiau a fy nheulu a mae rhain i gyd yn fy ysbrydoli bob dydd ac yn cael dylanwad cryf ae fy ngwaith celf. 


 

Mae peintio yn fy ngallugoi i drosglwyddo a dehongli fy nheimladau a'm meddyliau mewn un ffrwydriad angerddol ar y canfas. Mae o bron fel trydydd iaith i mi. Pan fyddai’n peintio, mi fyddai’n aros yn y presennol, heb boeni am y gorffennol na’r dyfodol. Mae fel petai amser yn aros yn ei unfan am ychydig a mae'n ddihangfa berffaith.

 


Ers graddio o goleg Celf Wimbledon yn 2013, dwi wedi arddangos fy ngwaith mewn arddangosfeydd unigol a sioeau gr
ŵp - yn cynnwys sioeau ym Mharis, Rhufain a Llundain. Am ymholiadau gwaith gwreiddiol, prints a chomisiynau, cysylltwch â helo@lisaeurgaintaylor.com.